We’re delighted that two of our @ZSLMarine partnership projects in North Wales, @ProjectSIARC and Menai-Connecting Coasts, have received funding from the Nature Networks Programme, delivered by @HeritageFundUK , on behalf of Welsh Government.
This funding will enable Project SIARC, led by our science-led conservation charity and @NatResWales , to expand our work in Pen Llŷn a’r Sarnau Special Area of Conservation (SAC); supporting continued collaboration with local fishers, including the tagging of key shark species to reveal their movements and habitat use. It will also enable the creation of an Ocean Observatory, generating vital data to help better understand and manage Welsh marine protected areas.
Further, Project SIARC will widen opportunities for people to get involved in marine conservation, strengthen community-focused initiatives and deepen local knowledge of sharks, skates and rays
The funding for Menai-Connecting Coasts will allow the continuation of our seascape recovery planning and capacity-building work in and surrounding the Menai Strait and Conwy Bay SAC.
Collaborating with Bangor University, our project will co-develop a five-year Seascape Restoration Plan, advance marine habitat recovery and monitoring work, and strengthen inclusive community engagement and capacity.
The project will also expand opportunities for local communities to get involved through citizen science, co-creation workshops and bilingual outreach—helping build the partnerships, evidence and community stewardship needed for resilient coastal habitats.
Thanks to the Nature Networks Programme for supporting our work. Find out more on the ZSL website.
Rydyn ni’n falch iawn bod dau o’n prosiectau partneriaeth forol yng Ngogledd Cymru, Prosiect SIARC a Menai-Cysylltu Arfordiroedd, wedi cael cyllid gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur, sy’n cael ei darparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod Prosiect SIARC, sy’n cael ei harwain gan ein helusen gadwraeth dan arweiniad gwyddoniaeth a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ehangu’r gwaith yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Pen Llŷn a’r Sarnau; gan gefnogi cydweithio parhaus â physgotwyr lleol, yn cynnwys tagio rhywogaethau siarcod allweddol er mwyn gallu gweld eu symudiadau a’u defnydd o gynefinoedd. Bydd hefyd yn galluogi creu Arsyllfa’r Môr, gan gynhyrchu data hanfodol i helpu i ddeall a rheoli ardaloedd morol gwarchodedig Cymru yn well.
Ar ben hynny, bydd Prosiect SIARC yn ehangu cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn cadwraeth forol, yn cryfhau mentrau sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac yn dyfnhau gwybodaeth leol am siarcod a morgathod
Bydd y cyllid ar gyfer Menai-Cysylltu Arfordiroedd yn rhoi cyfle i ni barhau â’n gwaith o gynllunio adferiad morwedd a meithrin gallu yn ACA Afon Menai a Bae Conwy.
Gan gydweithio â Phrifysgol Bangor, bydd ein prosiect yn cyd-ddatblygu Cynllun Adfer Morwedd pum mlynedd, yn datblygu gwaith adfer a monitro cynefinoedd morol, ac yn cryfhau ymgysylltiad a chapasiti cymunedol cynhwysol.
Bydd y prosiect hefyd yn ehangu cyfleoedd i gymunedau lleol gymryd rhan drwy brosiectau gwyddoniaeth i ddinasyddion, gweithdai cyd-greu ac allgymorth dwyieithog – gan helpu i feithrin y partneriaethau, y dystiolaeth a’r stiwardiaeth gymunedol sydd eu hangen ar gyfer cynefinoedd arfordirol gwydn.
Diolch i’r Rhaglen Rhwydweithiau Natur am gefnogi ein gwaith. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: www.zsl.org/.../habitats/marine-and-freshwater
@WGClimateChange
📷 Rhianna Parry